Siaraadwyr Cymraeg?!! |
Post Reply | Page 123 4> |
Author | |
LLANDRE
Veteran Joined: 31 July 2007 Location: United Kingdom Status: Offline Points: 17329 |
Post Options
Thanks(0)
Posted: 06 September 2017 at 4:20pm |
Newydd sylwi does dim tradodaeth Cymraeg wedi bod yn yr adran yma ers tro byd. Siwt ma pawb a siwt ma bob un yn gweld y tymor yn mynd.?
|
|
West is Best (Fin gwybod)
|
|
Sponsored Links | |
ap sior
Veteran Joined: 08 May 2005 Location: Wales Status: Offline Points: 11410 |
Post Options
Thanks(0)
|
Hoffwn weld ni'n targedu 19 pwynt o'r 5 gem cyntaf. Falle bydd pwyntiau bonws yn anodd yn erbyn Caeredin a Connacht ond byddem yn gobeithio y byddwn yn ddigon da i ennill y ddau ohonynt. mae gen i hyder yn 'ail dim', Fe wnaethon nhw'n arbennig o dda i ni tymor diwethaf.
Bydd yn anodd amddiffyn y PRO 14, ond gallwn ei wneud. Rownd gyn derfynol man lleiaf yn Ewrop.
|
|
aber-fan
Veteran Joined: 25 October 2004 Location: Wales Status: Offline Points: 18857 |
Post Options
Thanks(0)
|
Yr wyf i yn eitha ffyddiog bod gan y garfan ddigon o allu i amddiffyn y tlws - neu ennill yr un newydd, tebyg. Credaf hefyd bod ganddom gyfle da iawn i gyrraedd o leiaf 8 ola' Ewrop, ac efallai gwneud yn well na hynny.
I raddau, bydd hyn yn dibynnu ar gadw mwyafrif y garfan yn ffit, ac felly mae'r anaf i ysgwydd Cubby yn dipyn o reswm i fecso.
Edited by aber-fan - 06 September 2017 at 7:56pm |
|
“You cannot reason a man out of what he never reasoned himself into.” (Jonathan Swift)
|
|
Cofi
Senior Member Joined: 28 March 2016 Location: CAERNARFON Status: Offline Points: 556 |
Post Options
Thanks(1)
|
Falle bo ni ond un gem i fewn i'r tymor ond ma pethe i weld yn galonogol iawn yn enwedig o gofio fod nifer uchel o'r garfan wedi dod drwy'r rhengoedd. I ychwanegu at hyn mae'r tim dan 18 yn chwarae rygbi pert iawn ac wedi gorffen ar frig y tabl heb golli gem hyd yn hyn.( curo 'r Gweilch 50-15 heno!)
|
|
Keith Bach
Senior Member Joined: 26 September 2004 Status: Offline Points: 411 |
Post Options
Thanks(0)
|
Da iawn a diolch Llandre. Ma bai arno ni!
Dechre arbennig i'r tymor, er bydd geme caletach i ddod. Ond rodd hi'n gret gweld y tim yn chwarae gyda'r un pwrpas a diwedd y tymor diwetha. I fi'n ffyddiog iawn y gallwn ni neud yn dda yn y gynghrair ac yn Ewrop.
|
|
Dim ond ffwl sydd yn gofyn
Pam fod eira yn wyn |
|
LLANDRE
Veteran Joined: 31 July 2007 Location: United Kingdom Status: Offline Points: 17329 |
Post Options
Thanks(0)
|
Os ma bai arnom ni ma adran gymraeg I gael felly I nin lwcus. Er bo ni wedi wneud yn dda nos Sadwrn roedd y Kings yn wan. Fin gweld nhwn gwella serch hynny. Gobeitho o gem I gem byddwn nin gwella er mwyn y sialens mawr o ware Caerfaddon a Toulon.
|
|
West is Best (Fin gwybod)
|
|
Sant
Veteran Joined: 03 May 2005 Location: United States Status: Offline Points: 1470 |
Post Options
Thanks(0)
|
Gwnes i mwynhau diwedd tymor dwethaf ac roedd rhai or causiau yn arbennig o leua. Dwy yn gweld gwendide yn ein gem ni ac fellu rwyn gweld ni yn 3ydd yn ein grwp ni yn y Pro 14 ond yn colli oddi cartref yn y cwateru. Enill 2 / 3 gem yn Ewrop.
|
|
Then raise the scarlet standard high.
Within its shade we'll live and die, Though cowards flinch and traitors sneer, We'll keep the red flag flying here. |
|
aber-fan
Veteran Joined: 25 October 2004 Location: Wales Status: Offline Points: 18857 |
Post Options
Thanks(0)
|
Braidd yn besimistaidd, efallai? Credaf bod cyfle go iawn ganddom i orffen yn gyntaf neu'n ail yn ein adran - Leinster yw'r tim arall i'n gofidio, yn fy marn i. Credaf hefyd byddwn yn ddigon da i ennill 4 gem yn Ewrop (o leiaf). Cawn weld!
Edited by aber-fan - 07 September 2017 at 3:05pm |
|
“You cannot reason a man out of what he never reasoned himself into.” (Jonathan Swift)
|
|
Keith Bach
Senior Member Joined: 26 September 2004 Status: Offline Points: 411 |
Post Options
Thanks(0)
|
Cytuno!
|
|
Dim ond ffwl sydd yn gofyn
Pam fod eira yn wyn |
|
LLANDRE
Veteran Joined: 31 July 2007 Location: United Kingdom Status: Offline Points: 17329 |
Post Options
Thanks(0)
|
Roedd hin hwb mawr, I weld dros naw mul o gefnogwyr yn y gem, gobeitho gwelwn ni torf swmpus am gem Caerfaddon.
|
|
West is Best (Fin gwybod)
|
|
Ffidel Bennett
Veteran Joined: 31 August 2014 Location: Caerdydd Status: Offline Points: 6306 |
Post Options
Thanks(0)
|
Clywodd rhywun arall gyfweliad gwych gyda Delme Thomas ar rhaglen "Dewi Llwyd at fore Sul" bore ma, tua 9:10 at achlysur ei benblwydd yn 75 oed? Werth clywed os allwch ffeindo fe at yr i-player neu yn cael ei ail-adrodd.
|
|
aber-fan
Veteran Joined: 25 October 2004 Location: Wales Status: Offline Points: 18857 |
Post Options
Thanks(0)
|
Mae Caerfaddon wedi dechrau'r tymor ar dan - byddant yn anoddach i'w curo na rhai timoedd a orffennodd y tymor diwethaf yn uwch yn yr Aviva, os byddant yn parhau yn yr un modd. Chwaraeodd Rhys Priestland ran bwysig yn eu buddigoliaeth ddoe, mae'n debyg.
|
|
“You cannot reason a man out of what he never reasoned himself into.” (Jonathan Swift)
|
|
aber-fan
Veteran Joined: 25 October 2004 Location: Wales Status: Offline Points: 18857 |
Post Options
Thanks(0)
|
Naddo, ond gwnaf chwilio amdano. Chwaraewr gwych - roeddwn yn hoffi'r ffordd oedd Delme yn rolio ei lewis i fyny, i ddangos cryfder ei freichiau, 'slawer dydd! Digon i ddiflasu'r gwrthwynebwyr, 'sbo!
|
|
“You cannot reason a man out of what he never reasoned himself into.” (Jonathan Swift)
|
|
Ffidel Bennett
Veteran Joined: 31 August 2014 Location: Caerdydd Status: Offline Points: 6306 |
Post Options
Thanks(0)
|
Pan ofynnodd Dewi Llwyd iddo "pa un roeddet yn fwyaf balch I chwarae iddynt - y Llewod neu Cymru?" Atebodd - "Llanelli"
|
|
Keith Bach
Senior Member Joined: 26 September 2004 Status: Offline Points: 411 |
Post Options
Thanks(0)
|
Dyma'r linc i gyfweliad Delme - mae 'n werth gwrando arno
www.bbc.co.uk/programmes/p05fndw2 Falle bydd rhaid copy & paste |
|
Dim ond ffwl sydd yn gofyn
Pam fod eira yn wyn |
|
Bryn A! Wel!
Veteran Joined: 07 May 2008 Location: Ceredigion Status: Offline Points: 3166 |
Post Options
Thanks(0)
|
Diolch am hynna. Fel arfer, mae'n ysbrydoliaeth clywed Delme yn dweud ei hanes. Gwych! Ynghylch eleni, rwy'n hyderus y bydd y steil o whare yn denu mwy a mwy o dorf, ac yn creu llwyddiant yn y ddwy gystadleuaeth. Mae'n mynd i fod yn anoddach eleni - dalwyd pawb a'i trowseru lawr ddiwedd tymor dwetha' - gan fod time yn mynd i weitho ar ffordd o negyddu ein dull o whare. O ystyried cryfder y garfan, rwy'n credu fod y modd da ni i fynd yr holl ffordd yn y ddwy gystadleuaeth (croesi byse na fydd gormodeth o anafiade)
|
|
Fy nheml sy'n yr Emlyn
|
|
Post Reply | Page 123 4> |
Tweet
|
Forum Jump | Forum Permissions You cannot post new topics in this forum You cannot reply to topics in this forum You cannot delete your posts in this forum You cannot edit your posts in this forum You cannot create polls in this forum You cannot vote in polls in this forum |