Print Page | Close Window

Scarlets ar Radio Cymru

Printed From: Scarlet Fever Llanelli Rugby Sport Wales Tickets
Category: RUGBY
Forum Name: ADRAN GYMRAEG
Forum Description: Iaith y nefoedd
URL: http://www.scarletfever.org/forum/forum_posts.asp?TID=44590
Printed Date: 24 June 2018 at 2:09pm
Software Version: Web Wiz Forums 11.04 - http://www.webwizforums.com


Topic: Scarlets ar Radio Cymru
Posted By: Keith Bach
Subject: Scarlets ar Radio Cymru
Date Posted: 25 May 2018 at 3:20pm
Heno ar Radio Cymru (7:00) mae rhaglen ysgafn llawn banter  Galw am y Marc yn edrych mlaen at y ffeinal fory.

Gwesteion yn cynnwys Garan Evans/Rhys ap William a gwr o Ystalyfera sy'n dysgu yn hen ysgol Johnny Sexton!  Ma fe wedi rhoi baneri Scarlets lan yn y stafell ddosbarth!

Hefyd - ma Alun Wyn Bevan yn holi ambell gwestiwn Trivia am y Scarlets e.e.

Mae tri chwaraewr tra'n chwarae i Lanelli/Scarlets wedi chwarae yn y rheng flaen mewn gem brawf i'r Llewod.  Pwy yw'r tri?




-------------
Dim ond ffwl sydd yn gofyn
Pam fod eira yn wyn



Replies:
Posted By: Bys Meri Ann
Date Posted: 25 May 2018 at 9:15pm
Diolch am hwnna. Rhaglen dda. Delme Thomas wedi chware yn y rheng flaen i'r Llewod - do'n i ddim yn gwbod hynna!


Posted By: aber-fan
Date Posted: 26 May 2018 at 3:50pm
Originally posted by Bys Meri Ann Bys Meri Ann wrote:

Diolch am hwnna. Rhaglen dda. Delme Thomas wedi chware yn y rheng flaen i'r Llewod - do'n i ddim yn gwbod hynna!

Do, wir - 'rwy'n cofio hynny.

Mae gen i feddwl bod Cymru wedi gwneud yr un peth yn erbyn y Crysau Duon yn y 60au, gyda Brian Thomas, ail reng o Gastellnedd, yn y rheng flaen - a all unrhyw un gadarnhau hynny?

Hefyd, fe wnaeth Cymru symud Denzil Williams (o Lyn Ebwy?) o'r ail reng - fe enillodd lawer cap fel prop wedyn ar ddechrau'r 60au.


-------------
I share no-one's ideas. I have my own.
(Ivan Turgenev)



Print Page | Close Window

Forum Software by Web Wiz Forums® version 11.04 - http://www.webwizforums.com
Copyright ©2001-2015 Web Wiz Ltd. - http://www.webwiz.co.uk