Print Page | Close Window

Cymru ynerbyn Lloegr

Printed From: Scarlet Fever Llanelli Rugby Sport Wales Tickets
Category: RUGBY
Forum Name: ADRAN GYMRAEG
Forum Description: Iaith y nefoedd
URL: https://scarletfever.org/forum/forum_posts.asp?TID=46219
Printed Date: 28 March 2024 at 3:00pm
Software Version: Web Wiz Forums 12.04 - http://www.webwizforums.com


Topic: Cymru ynerbyn Lloegr
Posted By: mael3114
Subject: Cymru ynerbyn Lloegr
Date Posted: 15 February 2021 at 9:09am
Bore da- gan edrych mlaen at y gem mewn bythefnos- mae gan Pivac benderfyniadau o ran y garfan- maswr? Adams yn ol? Oes le i JDavies? Liam yn full back? Be chi feddwl?



Replies:
Posted By: reesytheexile
Date Posted: 15 February 2021 at 11:58am
Originally posted by mael3114 mael3114 wrote:

Bore da- gan edrych mlaen at y gem mewn bythefnos- mae gan Pivac benderfyniadau o ran y garfan- maswr? Adams yn ol? Oes le i JDavies? Liam yn full back? Be chi feddwl?
. Dw i meddwl bod Foxy fydd ddim chwarae gem nesa ac Halfpenny fydd ddim chwarae -HIA ☹️ Oes, Liam yn full back 


Posted By: Mogwen
Date Posted: 15 February 2021 at 12:13pm
Ma rhaid dewis olwyr sydd yn gallu rhedeg at y saeson. Felly, liam ywr cefnwr, LRZ a North ar yr asgell, jonny a halaholo yn y canol. Ma rhaid dewis sheedy fel maswr. Mewnr, sain siwr.

-------------
The only true wisdom is in knowing you know nothing.


Posted By: Dic Penderyn
Date Posted: 15 February 2021 at 12:20pm
Originally posted by Mogwen Mogwen wrote:

Ma rhaid dewis olwyr sydd yn gallu rhedeg at y saeson. Felly, liam ywr cefnwr, LRZ a North ar yr asgell, jonny a halaholo yn y canol. Ma rhaid dewis sheedy fel maswr. Mewnr, sain siwr.
Fi'n teimlo'r un peth.Mae Hardy'n passio'n well,wi'n credu,ond mae Davies yn gryfach yn y dacl.Pwy sy'n cicio'n well?Annodd,ond Hardy i fi.


Posted By: Jones2004
Date Posted: 15 February 2021 at 2:00pm
Fydd Tomos Williams yn ôl erbyn y gem? Os fydd o yna mi ddylsa fo ddechrau yn fy marn i, fel arall Hardy i ddechrau. Rhaid i Sheedy ddechrau, gyda HP yn dechrau fel cefnwr os yw’n ffit ar gyfer y cicio. Chwaraeodd y pac yn dda ar y penwythnos felly eu cadw yr un fath, ac eithrio dod a Navidi nol fewn (cadw Botham ar y fainc). 


Posted By: mael3114
Date Posted: 15 February 2021 at 2:08pm
Sheedy i gychwyn bendant- mwy creadigol, a Biggar fel ‘finisher’- mi weithiodd hynny pan pan enillom ni Gamp Lawn dwetha efo Anscombe yn cychwyn. O ni licio Leon Brown pan ddoth mlaen. 
On cytuno- angen cefnwyr sy gallu mynd ar gem at y Saeson. Amdani! 


Posted By: Dai Guevara
Date Posted: 15 February 2021 at 2:55pm
Well dechrau gyda Hardy, mae'n symud y bel yn gyflymach ac yn fwy esmwyth i'r olwyr, ond cael Cawdor ar y fainc a dod ymlaen os ini tu ol gyda 20 munud i fynd a pawb yn dechrau blino. Bryd hynny mae ei gyflymdiad a'i gyflymder a'i lygad am fwlch yn gallu newid y gem. Ym anffodus nid yw'n cystal chwarewr i'r tim na Williams a Hardy.
Navidi i chwarae os yn ffit. Botham i ddechrau os nad yw - mae hwn yn droad pedol i minnau - tan yn ddiweddar credes i bod dim byd arbennig ynddo - ac yn wir nid yw'n gwneud llawer sy'n sefyll mas- mae e jyst yn gwneud llawer iawn o bethe da - fel peiriant di-flino!!


Posted By: Mogwen
Date Posted: 15 February 2021 at 3:57pm
Dw i'n cytuno ynglun a Botham. Ma rhywbeth amdano fe.

-------------
The only true wisdom is in knowing you know nothing.



Print Page | Close Window

Forum Software by Web Wiz Forums® version 12.04 - http://www.webwizforums.com
Copyright ©2001-2021 Web Wiz Ltd. - https://www.webwiz.net