Print Page | Close Window

Comisiynydd newydd Heddlu Dyfed-Powys

Printed From: Scarlet Fever Llanelli Rugby Sport Wales Tickets
Category: RUGBY
Forum Name: ADRAN GYMRAEG
Forum Description: Iaith y nefoedd
URL: https://www.scarletfever.org/forum/forum_posts.asp?TID=46422
Printed Date: 20 May 2022 at 6:56pm
Software Version: Web Wiz Forums 12.04 - http://www.webwizforums.com


Topic: Comisiynydd newydd Heddlu Dyfed-Powys
Posted By: Dai Guevara
Subject: Comisiynydd newydd Heddlu Dyfed-Powys
Date Posted: 29 August 2021 at 11:33am
Mae Richard Lewis (yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth) newydd gael ei apwyntio i'r swydd uchod. Cafodd ei gyfweld bore 'ma ar raglen radio Dewi Llwyd a siaradodd yn arbennig o dda - swnio'n ddyn call iawn.
Oh, a mae hefyd yn cefnogi'r Sgarlets!!



Replies:
Posted By: meidrim
Date Posted: 29 August 2021 at 11:35pm
Prif heddwas newydd Dyfed Powys yw Richard Lewis a ma Dafydd Llywellyn dal i fod yn comisiynydd heddlu Dyfed Powys ar ol i ni ei ail ethol ym mis Mai. Methu cofio beth yw prif constable yng ngymraeg, sori, prif cop yn swnio braidd yn amharchus. Braf clywed ei fod yn cefnogi y Scarlets. 


Posted By: Dai Guevara
Date Posted: 30 August 2021 at 5:57pm
Originally posted by meidrim meidrim wrote:

Prif heddwas newydd Dyfed Powys yw Richard Lewis a ma Dafydd Llywellyn dal i fod yn comisiynydd heddlu Dyfed Powys ar ol i ni ei ail ethol ym mis Mai. Methu cofio beth yw prif constable yng ngymraeg, sori, prif cop yn swnio braidd yn amharchus. Braf clywed ei fod yn cefnogi y Scarlets. 

Ymddiheuraf i Dafydd Llywelyn. Beth yw'r gwahaniaeth rwng y ddau swydd?


Posted By: meidrim
Date Posted: 30 August 2021 at 9:08pm
Ma Richard Lewis yn dal pobl drwg, ma Dafydd Llywellyn yn gwneud yn siwr bod ganddo'r adnoddau a'r cefnogaith i wneud ei waith ac yn gwneud yn siwr bod pethe yn rhedeg yn iawn fel rhyw line manager. Pam fod angen y ddau?,  pwy a wyr, oh ie ma hawl da DLl i ddiswyddo RL, ma hyn wedy digwydd yng Ngwent yn barod.


Posted By: Bys Meri Ann
Date Posted: 30 August 2021 at 10:47pm
Braf cael bachan lleol yn Brif Gwnstabl. Cafodd ei fagu yn Shir Gâr ac mae e wedi bod yn byw yng Ngheredigion ers blynyddoedd felly mae e'n nabod rhanbarth y Sgarlets yn iawn :) 



Print Page | Close Window

Forum Software by Web Wiz Forums® version 12.04 - http://www.webwizforums.com
Copyright ©2001-2021 Web Wiz Ltd. - https://www.webwiz.net