Scarlet Fever Llanelli Rugby Sport Wales Tickets Homepage
Forum Home Forum Home > RUGBY > ADRAN GYMRAEG
  New Posts New Posts RSS Feed - Rhoi dwrn i Gaerdydd!
  FAQ FAQ  Forum Search   Register Register  Login Login


Rhoi dwrn i Gaerdydd!

 Post Reply Post Reply
Author
Message
Asgellwr Chwith View Drop Down
Senior Member
Senior Member
Avatar

Joined: 13 April 2009
Status: Offline
Points: 492
Post Options Post Options   Thanks (0) Thanks(0)   Quote Asgellwr Chwith Quote  Post ReplyReply Direct Link To This Post Topic: Rhoi dwrn i Gaerdydd!
    Posted: 23 October 2010 at 11:05am
Boddhad mawr oedd gwylio'r bechgyn yn tynnu blewyn o drwynau ser mawr y brifddinas. Wedi wythnos galed yn y gwaith bum rhwng dau feddwl ynglyn a gwneud y daith i ddinas y goleuadau llachar ar noson ddigon oer. Ond roedd hi'n werth yr ymdrech. Doedd hi ddim yn glasur o gem a doedd y naill dim na'r llal ar eu gorau ond nid dyna'r pwynt. Fe chwaraeodd y bechgyn gydag ymroddiad a dygnwch nad oedd yno ar adegau tymor diwethaf. Mae yna fwy o ysbryd yn y garfan y tymor hwn na thymor diwethaf. Tra mod i'n derbyn nad yw ysbryd ar ben ei hunan yn ennill pencampwriaethau a chwpanau, mae e'n uffachol o bwysig yn y deg munud olaf y gem pan fydd tim ar ei liniau.
 
Perfformiad gwych. A braf oedd rhoi dwrn i'r Gleision ar eu tomen eu hunain. Roedd Josh unwaith eto'n serennu a Tavis yn dangos ei fod yn chwaraewr llawn addewid. Roedd dylanwad Stephen Jones yn yr ail hanner yn gwbl allweddol er mwyn llywio'r fuddugoliaeth.
 
Trueni bod trefniadau mynd i mewn i'r cae mor ddi-siap, fe gollais i'r gic gyntaf ond wedi gweud hynny fe ges i fwy na gwerth fy arian. Diolch yn fawr i chi fechgyn.
 
(Gyda llaw dim ond yn y Gymraeg y bydda' i'n postio ar y fforwm hwn o hyn allan)
Back to Top
Sponsored Links


Back to Top
Bryn A! Wel! View Drop Down
Veteran
Veteran
Avatar

Joined: 07 May 2008
Location: Ceredigion
Status: Offline
Points: 3166
Post Options Post Options   Thanks (0) Thanks(0)   Quote Bryn A! Wel! Quote  Post ReplyReply Direct Link To This Post Posted: 25 October 2010 at 6:13pm
Wel, ga'i ategu beth wedes ti. R'odd hi'n benderfyniad funud ola i fynd, gan fod Madam A! Wel! wedi bod yn sâl am amser (roeddwn wedi trefnu i fynd ers wythnose, ond erbyn yr wythnos dwetha, ddim yn siwr). Wel mi o'dd hi digon da i fynd, ond ddim i'r gêm, ac mi gefais weld y fuddugoliaeth fendigedig, a chael hwyl wedyn yn y Mochyn Du.
 
Diolch i'r bechgyn am roi penwythnos dda iawn i mi
Fy nheml sy'n yr Emlyn
Back to Top
Dai Cnau View Drop Down
Newbie
Newbie
Avatar

Joined: 28 April 2009
Status: Offline
Points: 66
Post Options Post Options   Thanks (0) Thanks(0)   Quote Dai Cnau Quote  Post ReplyReply Direct Link To This Post Posted: 26 October 2010 at 9:44pm
Roeddwn i mynd i fyd i'r gem yng nghaerdydd ond penderfynais peidio ar y funed olaf. Dyna chi gamgymeriad byddai byth yn gwneud eto!

Cofiwch chi. Cefais boddhad enfawr yn tecstio ein cyfellion o'r ddinas wrth wylio'r gem ar y teledu.

Mae'r tim yn dechrau dod bois bachClap
Ymlaen y Scarlets
Back to Top
 Post Reply Post Reply
  Share Topic   

Forum Jump Forum Permissions View Drop Down

Forum Software by Web Wiz Forums® version 12.04
Copyright ©2001-2021 Web Wiz Ltd.

This page was generated in 0.119 seconds.