Straeon o'r Strade |
Post Reply |
Author | ||
Bys Meri Ann
Senior Member Joined: 18 November 2010 Status: Offline Points: 303 |
Post Options
Thanks(0)
Posted: 21 March 2020 at 4:10pm |
|
Cafodd y rhaglen hyfryd hon ei dangos eto ar S4C neithiwr felly mae ar Clic/iPlayer am ryw fis arall: https://www.s4c.cymru/clic/programme/326692359
Gwerth ei gwylio os oes rhywun yn chwilio am rywbeth i'w wneud dros yr wythnosau nesa...
Mae'n cynnwys atgofion da am yr hen le gan bobol fel Delme, Ieuan, Ray Williams, a hyd yn oed y cawr Ivor Jones yn trafod y cawr Albert Jenkins. Diddorol oedd clywed Ray Williams yn sôn am Dde Affrica yn dod i'r Strade yn 1951 - pob un o'r Scarlets yn siarad Cymraeg a phob un o'r Springboks yn siarad Afrikaans a'r unig Saesneg oedd i'w chlywed ar y cae oedd wrth Mr Llewellyn y dyfarnwr! |
||
Sponsored Links | ||
ap sior
Veteran Joined: 08 May 2005 Location: Wales Status: Online Points: 11410 |
Post Options
Thanks(0)
|
|
Arwydd wrth gwrs nad oedd pobl croen ddu yn cael chwarae dros De Affrica yn y cyfod hynny
|
||
Bys Meri Ann
Senior Member Joined: 18 November 2010 Status: Offline Points: 303 |
Post Options
Thanks(0)
|
|
Ie wir, roedd hyn ddegawdau cyn i chwaraewr croenddu gynrychioli'r Springboks. Rwy newydd fwrw golwg ar dim y Springboks pan ddaethon nhw i'r Strade yn 1994, ac Afrikaaners oedd bron y cyfan ohonyn nhw bryd hynny hefyd. Ond un eithriad amlwg oedd yr asgellwr - a'r diweddar druan - Chester Williams.
|
||
Ffidel Bennett
Veteran Joined: 31 August 2014 Location: Caerdydd Status: Offline Points: 6306 |
Post Options
Thanks(0)
|
|
Rwy'n credu bod De Affrica yn llawer mwy aml-ieithol na Prydain. Ar wyliau yno yn yr Hydref roedd rhai o'r pobl lliw a oedd yn tywys ni o gwmpas yn siarad 7 iaith ac yn gallu newid yn hawdd rhyngddynt. Wrth gwrs byddai Affrikans yn un ohonynt ond byddai nifer o'r bobl gwyn hefyd yn siarad o leiaf un o'r ieithoedd brodorol - efallai nid trwy unrhyw gydymdemlad mawr a'r llwyth lleol ond oherwydd oedd ganddynt weision a gwarchodwragedd a oedd yn siarad y ieithoedd hynny a nhw fel plant.
Edited by Ffidel Bennett - 21 March 2020 at 7:35pm |
||
Post Reply | |
Tweet
|
Forum Jump | Forum Permissions You cannot post new topics in this forum You cannot reply to topics in this forum You cannot delete your posts in this forum You cannot edit your posts in this forum You cannot create polls in this forum You cannot vote in polls in this forum |