|
O! Dani Boi |
Post Reply
|
| Author | |
Asgellwr Chwith
Senior Member
Joined: 13 April 2009 Status: Offline Points: 492 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Topic: O! Dani BoiPosted: 27 December 2010 at 12:20pm |
|
Oh! Danny boy the pipes, the pipes are thawing!
Pob lwc i Rhys Priestland heddiw - cyfle iddo ddangos i Dani Boi taw fe yw'r aer i'r goron rhif 10 yng Nghymru.
Pob lwc i bawb arall hefyd - edrych ymlaen yn fawr at y gem. Bydd yn gyfle i ni fesur yn gwmws faint o welliant sydd wedi bod eleni. Mae tair ardal yn mynd i fod yn dyngedfennol - y rheng ôl, brwdfrydedd y bechgyn mewn coch yn erbyn profiad y crysau duon; MP v.MR /TK; canol y cae gyda Regan King yn creu lle ac amser i bawb o'i gwmpas.
I fi rwy'n gweld brwydr y rheng ôl yn weddol gyfartal, rwy'n gweld Mike Phillips yn chwarae yr un gêm araf, lafurus ac yn methu rhyddhau ei olwyr ac rwy'n gweld Regan King ben a 'sgwydde'n well na Hook a Bowe.
Sgarlets i fynd â hi mewn gêm agos. Y pibe'n galw Priestland i wisgo'i goron ar y diwedd.
EWCH AMDANI - SCARLETS AM BYTH!!
|
|
![]() |
|
| Sponsored Links | |
![]() |
|
Bryn A! Wel!
Veteran
Joined: 07 May 2008 Location: Ceredigion Status: Offline Points: 3166 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 28 December 2010 at 12:19pm |
|
O Diar, Asgellwr! Beth sydd i'w ddweud? "....brwdfrydedd y bechgyn mewn coch...". Welson ni ddim llawer o dystiolaeth o hwnnw. Fe gafon ein mogi - gan glinigrwydd y Gweilch, a dyfarnwr ffyslyd.
|
|
|
Fy nheml sy'n yr Emlyn
|
|
![]() |
|
Asgellwr Chwith
Senior Member
Joined: 13 April 2009 Status: Offline Points: 492 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 28 December 2010 at 12:42pm |
|
Mae siom wedi bod yn gwmni cyson i ni Gymry ers canrifoedd a doedd neb yn fwy siomedig na fi wrth gerdded y grisie ar ddiwedd y gêm ddoe. Ond mae gobaith yn rhan annatod o'n DNA ni hefyd. Mae Ionawr yn cynnig blwyddyn newydd a degawd newydd ac rwy'n gwbl hyderus y cawn ni ddegawd o lwyddiant ar y Parc.
Mae angen ambell i hergwd ar y cryts ifanc i'w hatgoffa fod rhaid gweithio'n galed i ennill, bod rhaid ymroi ac ymdrechu i fod y gore.
Ar drothwy blwyddyn a degawd newydd rwy'n falch taw cefnogwr y Scarlets ydw i. Dyna beth wi 'di bod am dros ddeugain mlynedd a dyna beth fydda' i tra bydda' i. Rwy'n falch cael dweud bod y dyddie da wedi gorbwyso'r dyddie du ar hyd y cyfnod hwn ac fe ddont yn ol. Does dim byd sicrach a charwn gredu y bydda' i yno i'w mwynhau. A melys fydd y mwynhau hwnnw. Fe sefa'i i wrth y tîm hwn oherwydd eu bod yn cynrychioli popeth sy'n dda am rygbi ac am chwaraeon. Mae colli i fod i ddigwydd pob hyn a hyn, mesur tîm da yw'r modd y maen nhw'n ymateb i'r golled.
Fe sefa'i i wrth y tîm hwn oherwydd fy mod yn rhan ohono ac wastad wedi bod. Rwy'n gwybod eich bod chi hefyd yn rhannu'r un ffyddlondeb, yr un weledigaeth a'r un sêl. Colli neu ennill does neb yn gallu rhoi gwerth ar beth felly.
YMLAEN LLANELLI!
|
|
![]() |
|
Bryn A! Wel!
Veteran
Joined: 07 May 2008 Location: Ceredigion Status: Offline Points: 3166 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 28 December 2010 at 7:09pm |
|
Clywch! Clywch!
|
|
|
Fy nheml sy'n yr Emlyn
|
|
![]() |
|
Wil Chips
Rambler
Joined: 23 August 2009 Location: Pembs Status: Offline Points: 55013 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 28 December 2010 at 7:20pm |
|
|
![]() |
|
Bys Meri Ann
Senior Member
Joined: 18 November 2010 Status: Offline Points: 303 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 02 January 2011 at 7:10am |
|
Ma dagrau yn fy llygaid i ar ol darllen hynna Asgellwr! Y teimlad o fod yn Sgarlad wedi'i fynegi'n dda, whare teg. Na gyd sydd isie nawr yw buddugoliaeth yn erbyn Caerlyr a byddwn ni fel y boi
|
|
![]() |
|
Post Reply
|
|
|
Tweet
|
| Forum Jump | Forum Permissions ![]() You cannot post new topics in this forum You cannot reply to topics in this forum You cannot delete your posts in this forum You cannot edit your posts in this forum You cannot create polls in this forum You cannot vote in polls in this forum |