Print Page | Close Window

Cefnogwyr cywilyddus

Printed From: Scarlet Fever Llanelli Rugby Sport Wales Tickets
Category: RUGBY
Forum Name: ADRAN GYMRAEG
Forum Description: Iaith y nefoedd
URL: https://scarletfever.org/forum/forum_posts.asp?TID=1331
Printed Date: 27 March 2026 at 3:52am
Software Version: Web Wiz Forums 12.04 - http://www.webwizforums.com


Topic: Cefnogwyr cywilyddus
Posted By: Keith Bach
Subject: Cefnogwyr cywilyddus
Date Posted: 20 November 2004 at 1:36pm

  Rwy wedi cael llond bola o rai "cefnogwyr "  sy'n ysgrifennu ar y wefan hon - (nid yn yr adran Gymraeg diolch byth) ac yn tynnu pawb lawr ac yn galw arwyr y llynedd yn bopeth eleni.   Ydyn, ni'n cael tymor anodd a siomedig, ond nyge dyma'r amser i fod tu ol pawb lawr yn y Strade.  Wrth gwrs bod isie i ni ddadle a trafod, ond plis dewch i wneud hynny yn aeddfed a chadarnhaol.

Mae mor rhwydd cefnogi tim llwyddiannus, ond mae angen tamed bach o ymdrech a theyrngarwch i gefnogi tim sydd yn colli a chael cyfnod siomedig.

Dyma pryd y gwelwn ni pwy yw'r gwir Scarlets, a phwy sydd ond yna yn ystod yr amseroedd da

 




Replies:
Posted By: missscarlet
Date Posted: 20 November 2004 at 1:48pm
Cytuno yn llwyr Kiethbach.

-------------
Fail to prepare, prepare to fail


Posted By: QuinsFan
Date Posted: 20 November 2004 at 1:54pm

Efallai y neges gorau dwi di gweld ers achau ar y wefan.

Just di gadael rhywbeth ar y post Disgrace yn "Scarlets GEneral"

 



Posted By: Micro Duck
Date Posted: 23 November 2004 at 9:36pm
Fi'n cytuno 'da ti Keith. Ond ar yr un pryd, mae'n rhaid i chwaraewyr a hyfforddwyr dod dan y lach, os 'di canlyniadau yn wael. Er hynny, mae'n bwysig bod y cefnogwyr yn aros yn dryw. Dw i cant y cant y tu ol i'r tim, ac fe fydda i ar y Strade beth bynnag y canlyniadau. Ond ma na broblemau lawr ar y Strade. Yn benodol, bo' ni heb recriwtio yn ystod yr Haf, a ninnau'n colli pennau profiadol fel Leigh a Stepho. Ond os dw i'n clywed yn iawn, ma hynny ar fin newid. Hyd at bedwar arall i ymuno a Mr Hewett, os ydi'r trafodaethau yn llwyddo. Fel mae'r idiom Saesneg yn dweud: gwyliwch y gwagle yma!

-------------
New KALAMAFONI - BEAST MODE t-shirt now available online.

Plus a new 'Sosban Fach Scoundrels' range.

Paste the link below into your URL:
https://llanelli.teemill.com/


Posted By: pwllendprincess
Date Posted: 23 November 2004 at 9:46pm
rywn cytuno hefyd. iawn rwy wedi dweud pethe am Arwel, ond dim ond un gem, rwyn credu bu'n hanner dda. dwi ddim yn gwbod beth sydd wedi digwydd.

-------------
PwllEnd Princess (P.E.P) xxxx


Posted By: Keith Bach
Date Posted: 24 November 2004 at 5:40pm

Falch i glywed bo ti'n mynd i aros yn driw Micro duck!!  Cofia, mae dweud y dyle ni ddadle a beirniadu yn adeiladol wnes i nid dweud na ddyle ni feirniadu.  Mae rhai "cefnogwyr" wedi dweud ar y wefan eu bod nhw'n mynd i gadw draw  neu hyd yn oed gefnogi y Gweilch!!!!

Cytuno gyda ti hefyd re. recriwtio.  Pwy yw'r 4 arall sydd i fod i ymuno gyda Hewett?



Posted By: Micro Duck
Date Posted: 24 November 2004 at 8:37pm

A jest i gorddi bach rhagor - mae'n debyg bod dau o'r chwaraewyr sydd yn cynnal trafodaethau yn gymwys i Gymru. Ma ail rheng, wythwr, maswr a canolwr yn siarad. Ond ma siarad yn un peth. Llofnodion ar bapur da ni ishe gweld ynde!



-------------
New KALAMAFONI - BEAST MODE t-shirt now available online.

Plus a new 'Sosban Fach Scoundrels' range.

Paste the link below into your URL:
https://llanelli.teemill.com/


Posted By: Keith Bach
Date Posted: 25 November 2004 at 12:00am
C'mon MD   PWY:?

-------------
Dim ond ffwl sydd yn gofyn
Pam fod eira yn wyn


Posted By: ursamajor
Date Posted: 25 November 2004 at 9:04am
Falle y gallwn ddyfalu pwy yw'r canolwr a'r rhif wyth, ond ail rheng? Dere 'mlaen MD...dim ond rhyw ddeg ohonom sy'n defnyddio'r adran 'ma! 


Posted By: Taffscarlet
Date Posted: 25 November 2004 at 9:15am

Originally posted by ursamajor ursamajor wrote:

Falle y gallwn ddyfalu pwy yw'r canolwr a'r rhif wyth, ond ail rheng? Dere 'mlaen MD...dim ond rhyw ddeg ohonom sy'n defnyddio'r adran 'ma! 

Sori, fi bach yn araf bore ma. Allai ddim meddwl am ganolwr na wythwr chwaith!



-------------
Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain

Daw dydd ni bydd mwy y rhai mawr.


Posted By: Micro Duck
Date Posted: 25 November 2004 at 10:17am

Rhaid cofio mai dim ond trafodaethau sy'n digwydd - dim byd ar bapur. Felly gwell aros i weld pwy sy'n arwyddo. Mae'r busnes yma o geisio denu chwaraewyr yn anodd - felly sdim ishe codi gobeithion yn rhy gynnar.



-------------
New KALAMAFONI - BEAST MODE t-shirt now available online.

Plus a new 'Sosban Fach Scoundrels' range.

Paste the link below into your URL:
https://llanelli.teemill.com/



Print Page | Close Window

Forum Software by Web Wiz Forums® version 12.04 - http://www.webwizforums.com
Copyright ©2001-2021 Web Wiz Ltd. - https://www.webwiz.net