Cymru dan 18 neithiwr.
Printed From: Scarlet Fever Llanelli Rugby Sport Wales Tickets
Category: RUGBY
Forum Name: ADRAN GYMRAEG
Forum Description: Iaith y nefoedd
URL: https://scarletfever.org/forum/forum_posts.asp?TID=41448
Printed Date: 27 March 2026 at 3:52am Software Version: Web Wiz Forums 12.04 - http://www.webwizforums.com
Topic: Cymru dan 18 neithiwr.
Posted By: Ffidel Bennett
Subject: Cymru dan 18 neithiwr.
Date Posted: 12 August 2015 at 9:51am
|
Llawer gwell perfformiad gyda Cymru'n chwalu yr Eidal mewn gem agored (er bod y dyfarnwr yn ymddangos fel petai'n cosbi Cymru llawer mwy aml na'r Eidal yn aml heb fawr iawn o rheswm). Cafodd pob un o'r 4 Scarlet gem dda gan gynnwys McBryde bach a ddaeth ymlaen yn gynnar fel eilydd yn y canol. Scoriodd gais a roedd yn amseru ei basio yn dda iawn. Roedd Evans y rhif 7 ymhob man (a scoria cais) a'r ddau brop yn solid iawn.
|
Replies:
Posted By: jiwjiwrygbi
Date Posted: 12 August 2015 at 5:23pm
|
Agree, 7 was outstanding, props solid enough, McBryde shouldn't even be there! Really poor against South Africa, Cardiff 10 much better!
|
Posted By: Ffidel Bennett
Date Posted: 12 August 2015 at 5:58pm
Dwi ddim yn ffan mawr o McBryde bach ond chwareodd yn dda neithiwr a roedd amseru ei basio yn llawer gwell na pasio'r maswr o Gaerdydd sydd falle'n rhedwr gwell. Ond fel rydym wedi gweld yn y gorffennol mae angen llawer mwy na rhedwr i chwarae 10 neu dim ond Hook a Mathew Morgan byddai'n cael chwarae dros Gymru yn ystod Cwpan y Byd.
|
Posted By: jiwjiwrygbi
Date Posted: 12 August 2015 at 10:20pm
|
Cytuno fod angen mwy na rhedwr i chwarae 10, ma rhaid cael dealltwriaeth fel i rhedeg gêm yn tactegol ac fel hynny yn fy marn i fydde mcbryde yn well off chwarae yn safle gwahanol, fel cefnwr. Ond wedi dweud hynny, mae ei taclo ef yn warthus hefyd! Yn debig i ysgrifen cymraeg fi! Ha, Hwyl
|
Posted By: Ffidel Bennett
Date Posted: 12 August 2015 at 11:03pm
|
Dwy ddim yn credo bod e'n ddigon cyflym i chwarae 15, ond fel welon ni gyda Stephen Jones mae'n bosib chware 10 heb fod yn "sbrinter" os oes meddwl digon chwim da ti. I ddweud y gwir, neithiwr am y tro cyntaf, credais fy mod yn gweld rhai agweddau tebyg i Stevo yn ei chwarae.
|
Posted By: jiwjiwrygbi
Date Posted: 13 August 2015 at 1:17pm
|
Tebyg i Stevo?? O jiw jiw, ges ti rhywbeth i yfed yn ystod gwilio'r gêm? Haha
|
Posted By: Ffidel Bennett
Date Posted: 16 August 2015 at 10:14am
Gem gyfartal 20-20 yn erbyn De Affrica ddoe - gem galle ni fod wedi ennill gyda perfformiad gwych yn yr ail hanner. McBryde eto'n dda (sori jiwjiw )a Josh McCloud yn dod arno fel eilydd a dwyn pel De Affrica i greu cais. Ond petasai'r Scarlets yn gallu cael un o chwarewyr Cymru dan 18 byddai'n rhaid mynd am Leon Brown, (prop neu rhif 6 Cross Keys) sy'n bwerus iawn ac yn barod wedi bod yn ymarfer gyda tim llawn Cymru.
|
Posted By: Hendre
Date Posted: 16 August 2015 at 10:57am
Lol
------------- You were born to win, but to be a winner, you must plan to win, prepare to win, and expect to win. Zig Ziglar
|
|