Print Page | Close Window

Y Byd Ar Bedwar heno

Printed From: Scarlet Fever Llanelli Rugby Sport Wales Tickets
Category: RUGBY
Forum Name: ADRAN GYMRAEG
Forum Description: Iaith y nefoedd
URL: https://scarletfever.org/forum/forum_posts.asp?TID=42097
Printed Date: 27 March 2026 at 3:52am
Software Version: Web Wiz Forums 12.04 - http://www.webwizforums.com


Topic: Y Byd Ar Bedwar heno
Posted By: Ffidel Bennett
Subject: Y Byd Ar Bedwar heno
Date Posted: 19 January 2016 at 11:32pm
Andrew  Coombs yn trafod pa mor effeithiol mae ysgolion uwchradd Cymraeg y de-dwyrain yn cynhyrchu siaradwyr Cymraeg o gartrefi di-Gymraeg.
Rhaglen onest a phwerus, gyda Coombs yn cyfaddef nid oedd yn arfer siarad llawer o Gymraeg tu fas i'w wersi ac yn teimlo'n lletchwith iawn yng ngharfan Cymru pan oedd siaradwyr Cymraeg yn ceisio siarad Cymraeg a fe, ond wedi ail-gydio yn y iaith  nes bod e nawr yn siarad yn ddigon rhugl i gyfarthreu yn hyderus ar rhaglenni S4C . Wedyn aeth y rhaglen ymlaen i ofyn pam bod nifer o gyn ddisgyblion yn "anghofio'r" iaith ar ol gadael ysgol. Roedd rhaglen radio "phone-in"  Galw Gari ar yr un pwnc amser cinio ond  roedd honno yn  gwyn-galchu'r broblem i raddau oherwydd dim ond pobl ag agweddau positif oedd yn  codi'r ffon. 
Rwy'n edmygu Andrew Coombs yn fawr ar ol gweld y rhaglenoherwydd ei onestrwydd a'i barodrwydd i ail-gydio a meistroli'r iaith cystal. Mae angen fwy a'i gymeriad e arnonom ni.



Replies:
Posted By: judith
Date Posted: 20 January 2016 at 9:51am
Diolch am rhannu hyn - mae'n swnio'n diddorol iawn, a mi wnai drio ei wylio ar Clic os nad yw S4C yn ei ail-ddarlledu yn ystod yr wythnos.

Dwi wedi gweld Andrew yn siarad ar nifer o rhaglenni rygbi S4C rwan ac eisioes wedi meddwl pa mor dda yw ei Gymraeg o. A braf hefyd yw clywed fod y siaradwyr Cymraeg yn y garfan yn siarad yr iaith gyda'i gilydd (yn anffodus, mae yna dipyn o bobol iaith Gymraeg gyntaf o gwmpas yma sydd yn siarad Saesneg gydai gilydd, ac yn waeth byth, hefo'u plant! Mae o yn fy nghorddi!)


Posted By: ap sior
Date Posted: 20 January 2016 at 4:55pm
Fi'n weddol sicr fod Hartson yn un arall sydd wedi ail gydio yn yr iaith.



Print Page | Close Window

Forum Software by Web Wiz Forums® version 12.04 - http://www.webwizforums.com
Copyright ©2001-2021 Web Wiz Ltd. - https://www.webwiz.net