Print Page | Close Window

Gleision, 01/01/16

Printed From: Scarlet Fever Llanelli Rugby Sport Wales Tickets
Category: RUGBY
Forum Name: ADRAN GYMRAEG
Forum Description: Iaith y nefoedd
URL: https://scarletfever.org/forum/forum_posts.asp?TID=42891
Printed Date: 27 March 2026 at 3:55am
Software Version: Web Wiz Forums 12.04 - http://www.webwizforums.com


Topic: Gleision, 01/01/16
Posted By: sionlikesmusic
Subject: Gleision, 01/01/16
Date Posted: 19 December 2016 at 4:02pm
Ymddiheiriadau os nad yma yw'r lle am y bost yma, ond fel rhywun sydd eirioed 'di ymweld a Parc y Scarlets o'r blaen, mi oeddwn i eisiau gofyn beth yw'r ffordd hawsaf am ddilynwr y Gleision i gyrraedd eich stadiwm o orsaf tren Llanelli.

Llongyfarchiadau am guro Toulon hefyd, am fuddugoliaeth!



Replies:
Posted By: Keith Bach
Date Posted: 19 December 2016 at 4:19pm
Bydd croeso mawr yn eich disgwyl ym Mharc y Scarlets.   Fel arfer mae bysus wedi eu trefnu o'r orsaf ar gyfer pob gem gartref.  Dyma'r manylion fel ag y ma' nhw ar y we

http://www.scarlets.co.uk/cym/teithio/index.php

Bws Gwasanaeth - Ar gyfer pob Gêm Gartref, bydd y Scarlets yn trefnu gwasanaeth bws hwylus. Bydd y bws yn disgwyl amdanoch chi o flaen yr Orsaf Drenau. O'r fan honno, bydd yn codi pobl wrth y safle bws sydd gyferbyn â'r Llyfrgell ac yn y bae bysiau wrth Aldi. Bydd y bws yn eich gollwng chi wrth Gatiau'r Stadiwm. Bydd amser y bws yn newid - a dibynnu ar amser y Chwiban Cyntaf, ond bydd yr amserlen yn cael ei rhoi ar y wefan cyn pob gêm. Mae'n ffordd ratach o deithio i'r stadiwm.

Dim ond £2.00 yw Tocyn Mynd-a-Dod i Oedolion a £1 yw'r pris i blant.

Parcio a Theithio - Adeg gemau cartref prysur, byddwn ni'n cynnig gwasanaeth parcio a theithio. Mae dau faes parcio a theithio sef Schaeffler, Bynea a Technium, Dafen. Gallwch chi adael eich car mewn maes parcio sy'n cael ei staffio a bydd ein bws gwennol yn mynd â chi'n syth at Gatiau'r Stadiwm. Mae'n costio £2.00 y car. Dy'n ni ddim yn darparu'r gwasanaeth hwn ar gyfer pob gêm, felly edrychwch ar dudalen deithio'r Scarlets i weld y manylion.

DOLENNI DEFNYDDIOL:

http://www.cymraeg.traveline-cymru/" rel="nofollow - http://www.cymraeg.traveline-cymru
http://www.transportdirect.info/" rel="nofollow - http://www.transportdirect.info
http://www.firstgroup.com/" rel="nofollow - www.firstgroup.com



-------------
Dim ond ffwl sydd yn gofyn
Pam fod eira yn wyn



Print Page | Close Window

Forum Software by Web Wiz Forums® version 12.04 - http://www.webwizforums.com
Copyright ©2001-2021 Web Wiz Ltd. - https://www.webwiz.net