|
Siaraadwyr Cymraeg?!! |
Post Reply
|
Page <1234> |
| Author | |||
LLANDRE
Veteran
Joined: 31 July 2007 Location: United Kingdom Status: Offline Points: 17338 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 02 October 2017 at 5:08pm |
||
|
Faint ohonoch chi syn mynd I Abertawe at gyfer y gem nos Sadwrn?.
|
|||
|
West is Best (Fin gwybod)
|
|||
![]() |
|||
| Sponsored Links | |||
![]() |
|||
Keith Bach
Senior Member
Joined: 26 September 2004 Status: Offline Points: 427 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 03 October 2017 at 9:54am |
||
|
Yn anffodus fi'n methu! Gobeithio dala'r ail hanner ar y teledu.
Am ryw reswm ma rhyw deimlad gwael gyda fi am nos Sadwrn - gobeithio bo fi'n rong! Penbleth i Pivac wrth ddewis y tim efalle - yw e'n rhoi'r tim cryfa mas ? Neu yw e yn cadw rhai nol ar gyfer Toulon? Unrhywun yn gwbod beth yw'r sefyllfa o ran anafiade?
|
|||
|
Dim ond ffwl sydd yn gofyn
Pam fod eira yn wyn |
|||
![]() |
|||
Wil Chips
Rambler
Joined: 23 August 2009 Location: Pembs Status: Offline Points: 55013 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 03 October 2017 at 5:44pm |
||
|
Ar y bocs ma!
|
|||
![]() |
|||
LLANDRE
Veteran
Joined: 31 July 2007 Location: United Kingdom Status: Offline Points: 17338 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 08 October 2017 at 9:21pm |
||
|
Braf oedd bod yno i weld nin enill. Edrych mlaen nawr at gyfer Ewrop.
|
|||
|
West is Best (Fin gwybod)
|
|||
![]() |
|||
ap sior
Veteran
Joined: 08 May 2005 Location: Wales Status: Online Points: 14101 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 08 October 2017 at 9:37pm |
||
|
Dwi ddim yn mwynhau mynd i'r Liberty oherwydd y sawl crasfa rydym wedi dioddef yno.
Ond wedi dweud hynny dwi wedi bod yno tair gwaith ac rydym wedi ennill dwy waith. Falle dylwn fynd yno yn fwy aml !!!!!
|
|||
![]() |
|||
Pentigili
Groupie
Joined: 18 December 2017 Location: Pembs Status: Offline Points: 290 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 28 December 2017 at 12:40am |
||
|
Newydd ymuno â Scarlet Fever ac yn falch iawn i gael y gyfle i sgwrsio yn iaith y Nefoedd!!
|
|||
![]() |
|||
Wil Chips
Rambler
Joined: 23 August 2009 Location: Pembs Status: Offline Points: 55013 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 28 December 2017 at 10:38am |
||
|
Croeso mawr.
|
|||
![]() |
|||
judith
Veteran
Joined: 06 October 2004 Location: Gogledd Cymru Status: Offline Points: 1411 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 28 December 2017 at 11:07am |
||
|
Croeso Pentigili!
Gobeithio cafodd pawb nadolig llawen (wedi bwyta gormod o pethau melys, yn bersonol!) a pa anrheg well na fuddigoliaeth yn erbyn y Gweilch ar Ddydd San Steffan? ![]() |
|||
![]() |
|||
Pentigili
Groupie
Joined: 18 December 2017 Location: Pembs Status: Offline Points: 290 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 28 December 2017 at 1:15pm |
||
|
Diolch am y croeso, anrheg Nadolig ansbaradigaethus!!! Da iawn i'r tîm am ddyfalbarhau ac roedd hi'n hyfryd i weld Josh yn sgorio'r cais i ennill y gêm! Sgrym anhygoel, a chic ardderchog gan Scott, diolch bois!!!
Blwyddyn newyddd dda bawb!!! # ymaohyd |
|||
![]() |
|||
aber-fan
Rambler
Joined: 25 October 2004 Location: Wales Status: Offline Points: 20259 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 28 December 2017 at 2:04pm |
||
Byddwn innau wedi mwynhau hyn hefyd - ond imi adael yn gynnar i osgoi'r cawlach llwyr sy'n digwydd pan mae'r maes parcio yn llawn! ![]() Beth bynnag - tamaid yn gynnar - Blwyddyn newydd dda!
|
|||
|
“You cannot reason a man out of what he never reasoned himself into.” (Jonathan Swift)
|
|||
![]() |
|||
judith
Veteran
Joined: 06 October 2004 Location: Gogledd Cymru Status: Offline Points: 1411 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 28 December 2017 at 4:16pm |
||
O na!!! (Er, rwyf yn cydymdeimlo fel rhywun sydd wedi bod yn styc yn y maes parcio am oesoedd bob tro yr ydym yn dod i lawr yna, felly dwi ddim yn gweld bai arnot am adael yn gynnar!) |
|||
![]() |
|||
aber-fan
Rambler
Joined: 25 October 2004 Location: Wales Status: Offline Points: 20259 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 28 December 2017 at 4:19pm |
||
Yr oedd yn benderfyniad anffodus iawn...
|
|||
|
“You cannot reason a man out of what he never reasoned himself into.” (Jonathan Swift)
|
|||
![]() |
|||
Ffidel Bennett
Veteran
Joined: 31 August 2014 Location: Caerdydd Status: Offline Points: 6306 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 28 December 2017 at 5:09pm |
||
|
Gadawes i'r car ym maes parcio Morrisons. Doedd bron neb arall wedi parcio yno ac o'n yn amau bydden ni'n cael "lock-in", di-gwrw yno. Ar ol gadael wedi dathlu'r fuddugoliaeth enfawr am awr fach yn y Sgubor, aethom mas braidd yn bryderus. Yn ffodus, a rhaid bod Duw neu rhywbeth yn gwenu arnom ni a'r Sgarlets ar nos fawrth. Nid oedd unrhyw rwystr rhag gyrru yn syth mas a roedd y traffig I gyd wedi diflannu! Roedd hyd yn oed yr eira dros y Preselau (lle roedden yn sefyll am gwpwl o nosweithiau gyda teulu'r wraig) ddim yn stico at yr hewl!! Noson gwbl wych.
|
|||
![]() |
|||
ap sior
Veteran
Joined: 08 May 2005 Location: Wales Status: Online Points: 14101 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 28 December 2017 at 5:14pm |
||
|
Oes modd i rhywun gywiro'r teitl ?
Fel cyn athro dwi'n casau camsillafu ! Siaradwyr nid sairaadwyr ! |
|||
![]() |
|||
Pentigili
Groupie
Joined: 18 December 2017 Location: Pembs Status: Offline Points: 290 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 28 December 2017 at 5:33pm |
||
|
'Sdim gobaith caneri i fi newid y teitl technoleg gwybodaeth a fi ddim yn ffrindiau da iawn!!
Dwi'n ymddiheurio ymlaen llaw am unrhyw gangymeriadau gyda'r sillafu a'r treiglo fel rhywun sydd wedi dysgu'r iaith dwi'n trio fy ngorau glas i fod yn gywir ond mae shwt gymaint o reolau!!! Ta beth roedd y dathliadau nos Fawrth yn fythgofiadwy!!! |
|||
![]() |
|||
judith
Veteran
Joined: 06 October 2004 Location: Gogledd Cymru Status: Offline Points: 1411 |
Post Options
Thanks(0)
Quote Reply
Posted: 28 December 2017 at 6:13pm |
||
Dwi'n meddwl mae ond y person a gychwynodd y pwnc caiff newid y teitl. Ond yn sicr does dim angen ymddiheuro am unrhyw cangymeriadau iaith a.y.y.b! Yn sicr rydw i fel Cofi bron byth yn treiglo! (bag fi, car fi a.y.y.b!) Y peth pwysicach ydi fod y iaith yn gael ei ddefnyddio (yn fy marn i) - does dim rhaid iddo fod yn berffaith o ran ei gywirdeb. Edited by judith - 28 December 2017 at 11:07pm |
|||
![]() |
|||
Post Reply
|
Page <1234> |
|
Tweet
|
| Forum Jump | Forum Permissions ![]() You cannot post new topics in this forum You cannot reply to topics in this forum You cannot delete your posts in this forum You cannot edit your posts in this forum You cannot create polls in this forum You cannot vote in polls in this forum |